Project overview

water-energy nexus.jpg

Our work quantify the regional potential for energy recovery in the Ireland-Wales region, identify best practice and set goals to maximise energy recovery, provide technologies to achieve this goal, and ensure future-proofing is considered for a changing climate. Our work can help generate jobs and boost the economy, provide environmental savings through energy recovery, as well as deliver low-carbon solutions to ensure a more sustainable future.

Bydd ein gwaith yn mesur y potensial rhanbarthol ar gyfer adfer ynni yn rhanbarth Iwerddon-Cymru, adnabod arfer gorau a gosod targedau i sicrhau’r adferiad ynni mwyaf posibl, darparu technolegau i gyflawni’r nod hwn a sicrhau bod ystyriaethau newid hinsawdd yn gydnerth i’r dyfodol. Gall ein gwaith gynorthwyo trwy greu swyddi a rhoi hwb i’r economi, darparu arbedion amgylcheddol trwy adferiad ynni, yn ogystal â chynnig atebion carbon-isel i sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy.

Water-Energy Nexus

There is significant scope to improve energy efficiency in the distribution of water resources in Ireland and Wales, which can benefit two key stakeholders groups: water companies (suppliers) and water consumers (end-users). The water-energy nexus is interconnected and Dŵr Uisce is addressing this challenge from a number of different perspectives: technological solutions; regional assessments; measuring efficiency; and examining future water security.

Rhwydwaith Ynni-Dŵr

Mae cryn dipyn o waith i’w wneud i wella effeithiolrwydd ynni wrth ddosbarthu adnoddau dŵr yn Iwerddon a Chymru. Gallai hyn esgor ar fanteision i ddau grwp allweddol o randdeiliaid: cwmnïau dŵr (y cyflenwyr) a defnyddwyr dŵr (y defnyddiwr terfynol).  Mae’r rhwydwaith ynni-dŵr yn gyd-gysylltiedig ac mae Dŵr Uisce yn mynd i’r afael â’r her hon o nifer o safbwyntiau gwahanol: datrysiadau technolegol; asesiadau rhanbarthol; mesur effeithiolrwydd; ac archwilio diogelwch dŵr y dyfodol.

What is our ambition? To innovate in the water sector

To understand where energy efficiency opportunities exist, we undertake cross-border and cross-sectoral auditing and benchmarking assessments to support a market assessment in the performance of the water sector. By undertaking environmental and economic assessments of the regional potential, it delivers best practice and identify cost effective systems, balanced with low-carbon and resource-efficient design.  

Beth yw ein nod? Y capasiti i arloesi yn y sector dŵr

Er mwyn deall lle mae cyfleoedd effeithlonrwydd ynni yn bodoli, byddwn yn cynnal asesiadau archwilio a meincnodi trawsffiniol a thraws sector i gefnogi asesiad marchnad ym mherfformiad y sector dŵr. Trwy gynnal asesiadau amgylcheddol ac economaidd o’r potensial rhanbarthol, bydd yn cyflwyno arfer gorau gan adnabod systemau cost effeithiol ar y cyd â dyluniad carbon isel sy’n effeithlon o ran adnoddau. Bydd pecyn cynllun eco yn cael ei gynhyrchu’n benodol ar gyfer y sector dŵr i gefnogi cylch gorchwyl cynyddol yr economi gylchol. 

Technology and services to meet the challenge

New smart and low-carbon technologies are required to achieve energy recovery in the water sector, and this is delivered at four demonstration sites in Ireland and Wales. Furthermore, the potential impact of the technology platforms (micro-hydropower, drainwater heat recovery and smart network controls) for energy saving in the water sector will be quantified.

Technoleg a Gwasanaethau i fynd i’r afael â’r her

Er mwyn cyflawni adferiad ynni yn y sector dŵr, mae angen technolegau clyfar a charbon isel newydd, a chaiff hyn ei ddarparu mewn pedwar safle arddangos yn Iwerddon a Chymru. At hynny, byddwn yn meintioli effaith bosibl y llwyfannau technoleg (ynni-dŵr - micro, adfer gwres dŵr draen a rheoli rhwydwaith clyfar) ar gyfer arbed ynni yn y sector dŵr.

Stimulating collaboration through a smart specialisation cluster

The importance of sharing information between organisations is recognised as a key factor in the success of this project. Therefore, the Ireland-Wales Water-Energy network facilitates knowledge transfer through a range of dissemination events and material, as well as promote an action learning network to stimulate new innovative supply relationships in the region. We support existing and emerging technology, policies, regulations and other measures which can contribute to greater sustainability in the sector.

Ysgogi cydweithio drwy glwstwr arbenigo clyfar

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd rhannu gwybodaeth rhwng sefydliadau fel ffactor allweddol yn llwyddiant y prosiect hwn.  Felly, bydd Rhwydwaith Ynni-Dŵr Iwerddon Cymru yn hwyluso trosglwyddo gwybodaeth drwy drefnu amrywiaeth o ddigwyddiadau a rhannu deunyddiau, yn ogystal â hyrwyddo rhwydwaith dysgu gweithredol i feithrin cysylltiadau cyflenwi arloesol yn y rhanbarth. Byddwn yn cefnogi technoleg sy’n bodoli eisoes ynghyd â thechnolegau, polisïau, rheoliadau a mesurau newydd sbon eraill a all gyfrannu at fwy o gynaliadwyedd yn y sector.

Looking forward, addressing climate change impacts

Climate change can impact our most valuable resource and will affect the future availability of water in Ireland and Wales. The implications are examined and quantified, considering the knock-on effects on water availability, energy consumption and the economy in both regions. An improved understanding of how climate change will directly and indirectly impact on the demand for water needs to be better understood. This helps deliver recommendations for the water industry to address future uncertainties to prevent regional water stress. 

Edrych ymlaen, mynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd

Gall newid hinsawdd effeithio ar ein hadnodd mwyaf gwerthfawr gan effeithio ar argaeledd dŵr yn y dyfodol yn Iwerddon a Chymru. Bydd y goblygiadau yn cael eu harchwilio a’u meintioli, gan ystyried y sgil-effeithiau ar argaeledd dŵr, ar ddefnydd ynni ac ar yr economi yn y ddau ranbarth. Mae angen gwell dealltwriaeth o sut gall newid hinsawdd effeithio’n uniongyrchol ac anuniongyrchol ar y galw am ddŵr. Bydd yn gymorth i gynnig argymhellion i’r diwydiant dŵr ar sut i fynd i’r afael ag ansicrwydd y dyfodol i atal pwysau rhanbarthol ar ddŵr.